Mae’r ddogfen hon yn un o gyfres o adroddiadau a luniwyd o dan ddarpariaethau Deddf Gwasanaeth Ystadegau a Chofrestru 2007. Mae’r Ddeddf hon yn caniatáu i awdurdod priodol ofyn am asesiad o ystadegau swyddogol yn erbyn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau Swyddogol er mwyn iddynt gael statws Ystadegau Gwladol. Lluniwyd yr adroddiad hwn mewn ymateb i gais o’r fath. Mae’r adroddiad hwn yn ymdrin ag ystadegau ar y defnydd o’r Gymraeg, a nodir yn y ddogfen, Y Defnydd o’r Gymraeg yng Nghymru, 2013-15 (DoG 2013-15), a luniwyd ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg.
This is one of a series of reports prepared under the provisions of the Statistics and Registration Service Act 2007. The Act allows an appropriate authority to request an assessment of official statistics against the Code of Practice for Official Statistics in order for them to gain National Statistics status. This report is in response to such a request. The report covers statistics on Welsh language use, reported in Welsh Language Use in Wales, 2013-15 (WLUW 2013-15), produced jointly by the Welsh Government and the Welsh Language Commissioner.